Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y cyfarfod: |
|
|
|
||
Amser y cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Pleidleisiau a Thrafodion (234) |
1 Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gofynnwyd y 10 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.
2 Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Dechreuodd yr eitem am 14.21
3 Datganiad gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau: Cyflwyno'r Bil Cymwysterau Cymru
Dechreuodd yr eitem am 14.53
4 Datganiad gan Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth: Gwyddoniaeth yng Nghymru - Ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf
Dechreuodd yr eitem am 15.45
5 Dadl: Effaith y Polisi Caffael yng Nghymru
Dechreuodd yr eitem am 16.19
NDM5640 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod y Cynulliad Cenedlaethol:
1. Yn nodi:
a) yr effaith a gafwyd ar gaffael cyhoeddus ers lansio Datganiad Polisi Caffael Cymru ym mis Rhagfyr 2012;
b) y bydd Datganiad Polisi Caffael Cymru yn cael ei adolygu i fanteisio ar y newidiadau sydd ar fin digwydd i ddeddfwriaeth caffael yn yr UE a'r DU.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Elin Jones (Ceredigion)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cydnabod:
a) yr effaith gadarnhaol y gall cynyddu cyfran y tendrau yn y sector cyhoeddus a gaiff eu dyfarnu i gwmnïau o Gymru ei chael ar yr economi a'r farchnad lafur;
b) cyfrifiad Gwerth Cymru y bydd pob cynnydd o 1% yng nghyfran y tendrau yn y sector cyhoeddus a gaiff eu dyfarnu i gwmnïau o Gymru yn creu 2,000 o swyddi newydd.
Derbyniwyd gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a gweddill y gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Gwelliant 2 - Elin Jones (Ceredigion)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i fanteisio ar y newidiadau yn rheolau caffael yr UE ac anelu at ddyfarnu o leiaf 75% o dendrau sector cyhoeddus i gwmnïau o Gymru.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
26 |
0 |
27 |
53 |
Gwrthodwyd gwelliant 2.
Gwelliant 3 - Elin Jones (Ceredigion)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddeddfu i'w gwneud yn orfodol bod sefydliadau yn y sector cyhoeddus yn dilyn polisi caffael Llywodraeth Cymru.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
49 |
0 |
4 |
53 |
Derbyniwyd gwelliant 3.
Gwelliant 4 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu bod angen i Lywodraeth Cymru ddarparu diweddariadau rheolaidd ynghylch y broses o fabwysiadu Datganiad Polisi Caffael Cymru gan awdurdodau lleol a'r contractau y maent yn eu dyfarnu.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
53 |
0 |
0 |
53 |
Derbyniwyd gwelliant 4.
Gwelliant 5 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu at y gyfran isel o gontractau sy'n mynd i gwmnïau sydd â phencadlys yng Nghymru.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
25 |
0 |
27 |
52 |
Gwrthodwyd gwelliant 5.
Gwelliant 6 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i'w gwneud yn ofynnol bod cyrff cyhoeddus yn asesu'r economi leol cyn penderfynu sut y dylai contractau caffael cyhoeddus gael eu bwndelu.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
53 |
0 |
0 |
53 |
Derbyniwyd gwelliant 6.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM5640 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod y Cynulliad Cenedlaethol:
1. Yn nodi:
a) yr effaith a gafwyd ar gaffael cyhoeddus ers lansio Datganiad Polisi Caffael Cymru ym mis Rhagfyr 2012;
b) y bydd Datganiad Polisi Caffael Cymru yn cael ei adolygu i fanteisio ar y newidiadau sydd ar fin digwydd i ddeddfwriaeth caffael yn yr UE a'r DU.
2. Yn cydnabod:
a) yr effaith gadarnhaol y gall cynyddu cyfran y tendrau yn y sector cyhoeddus a gaiff eu dyfarnu i gwmnïau o Gymru ei chael ar yr economi a'r farchnad lafur;
b) cyfrifiad Gwerth Cymru y bydd pob cynnydd o 1% yng nghyfran y tendrau yn y sector cyhoeddus a gaiff eu dyfarnu i gwmnïau o Gymru yn creu 2,000 o swyddi newydd.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddeddfu i'w gwneud yn orfodol bod sefydliadau yn y sector cyhoeddus yn dilyn polisi caffael Llywodraeth Cymru.
4. Yn credu bod angen i Lywodraeth Cymru ddarparu diweddariadau rheolaidd ynghylch y broses o fabwysiadu Datganiad Polisi Caffael Cymru gan awdurdodau lleol a'r contractau y maent yn eu dyfarnu.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i'w gwneud yn ofynnol bod cyrff cyhoeddus yn asesu'r economi leol cyn penderfynu sut y dylai contractau caffael cyhoeddus gael eu bwndelu.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
53 |
0 |
0 |
53 |
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
6 Dadl: Adroddiad Blynyddol 2014 ar y Strategaeth Camddefnyddio Sylweddau
Dechreuodd yr eitem am 16.57
NDM5641 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi'r cynnydd sydd wedi'i wneud o ran gweithredu'r strategaeth camddefnyddio sylweddau 'Gweithio gyda'n Gilydd i Leihau Niwed' fel y manylir arno yn adroddiad blynyddol 2014.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Elin Jones (Ceredigion)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod cyflogwyr yn y gwasanaethau cyhoeddus yn cefnogi gweithwyr sydd â phroblemau mewn perthynas â chamddefnyddio sylweddau drwy ymyrraeth gynnar a chefnogaeth i gynnal cyflogaeth.
Derbyniwyd gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 2 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn llongyfarch arloeswyr therapi dibyniaeth a dulliau sy'n seiliedig ar adfer yng Nghymru.
Derbyniwyd gwelliant 2 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a gweddill y gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Gwelliant 3 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu at oedi Llywodraeth Cymru wrth gyflwyno gwasanaethau haen 4 ar gyfer adsefydlu preswyl a gwasanaethau dadwenwyno cleifion mewn ysbytai ar sail gynaliadwy a thymor hir yng Nghymru.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
26 |
0 |
27 |
53 |
Gwrthodwyd gwelliant 3.
Gwelliant 4 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn croesawu cyhoeddi adroddiad y Swyddfa Gartref 'Drugs: International Comparators' ac yn credu mai'r ffordd orau o helpu defnyddwyr cyffuriau yw drwy drin camddefnyddio sylweddau fel mater iechyd yn bennaf yn hytrach na mater troseddol.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
43 |
10 |
0 |
53 |
Derbyniwyd gwelliant 4.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM5641 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi'r cynnydd sydd wedi'i wneud o ran gweithredu'r strategaeth camddefnyddio sylweddau 'Gweithio gyda'n Gilydd i Leihau Niwed' fel y manylir arno yn adroddiad blynyddol 2014.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod cyflogwyr yn y gwasanaethau cyhoeddus yn cefnogi gweithwyr sydd â phroblemau mewn perthynas â chamddefnyddio sylweddau drwy ymyrraeth gynnar a chefnogaeth i gynnal cyflogaeth.
3. Yn llongyfarch arloeswyr therapi dibyniaeth a dulliau sy'n seiliedig ar adfer yng Nghymru.
4. Yn croesawu cyhoeddi adroddiad y Swyddfa Gartref 'Drugs: International Comparators' ac yn credu mai'r ffordd orau o helpu defnyddwyr cyffuriau yw drwy drin camddefnyddio sylweddau fel mater iechyd yn bennaf yn hytrach na mater troseddol.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
41 |
11 |
0 |
52 |
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
7 Cyfnod Pleidleisio
Dechreuodd yr eitem am 17.47
Daeth y cyfarfod i ben am 17.51
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mercher, 3 Rhagfyr 2014